Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 2 Hydref 2013
i'w hateb ar 9 Hydref 2013

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

 

1. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud yng Nghymru o ran mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd? OAQ(4)0056(NRF)

 

2. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i hybu bwyd iach a gynhyrchir yn lleol? OAQ(4)0059(NRF)

 

3. Russell George (Sir Drefaldwyn):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau ynni dŵr yng Nghymru? OAQ(4)0058(NRF)

 

4. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran mynd i'r afael â chlefyd Ramorum mewn coed llarwydd yng Nghymru? OAQ(4)0055(NRF)

 

5. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Glastir? OAQ(4)0060(NRF) TYNNWYD YN ÔL

 

6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo ffermwyr i leihau biwrocratiaeth? OAQ(4)0051(NRF)

 

7. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella effeithlonrwydd ynni? OAQ(4)0065(NRF)

 

8. Keith Davies (Llanelli): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael ynglŷn â nwyeiddio glo tanddaearol yn Llanelli a'r ardal gyfagos? OAQ(4)0062(NRF)

 

9. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei asesiad o effeithiau amgylcheddol echdynnu nwy drwy ddulliau anghonfensiynol? OAQ(4)0052(NRF)

 

10. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran sefydlu adran gyfunol ar bolisïau morol a physgodfeydd? OAQ(4)0053(NRF)W

 

11. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru yn datblygu ers ei sefydlu ym mis Ebrill? OAQ(4)064(NRF)

 

12. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella lles anifeiliaid yng Nghwm Cynon? OAQ(4)0054(NRF)

 

13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cymorth Llywodraeth Cymru i gynorthwyo effeithlonrwydd ynni a lleihau tlodi tanwydd? OAQ(4)0063(NRF)

 

14. Elin Jones (Ceredigion): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran darparu mwy o amddiffyniad rhag llifogydd mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd y llynedd? OAQ(4)0061(NRF)

 

15. Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa asesiadau effaith y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud ar yr effaith y mae datblygiadau ffermydd gwynt ar y tir yn ei chael ar gymunedau lleol yng Nghymru? OAQ(4)0057(NRF)

 

Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio

 

1. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â’r amserlen ar gyfer cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol 20 diwygiedig? OAQ(4)0304(HR)W

 

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo adfywio trefi yng Nghymru? OAQ(4)0293(HR)

 

3. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu strategaeth tai Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0306(HR)

 

4. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd? OAQ(4)0301(HR)

 

5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â digartrefedd? OAQ(4)0300(HR)

 

6. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd Cynllun Grant Cyllid Tai Cymru yn helpu pobl yn etholaeth Pontypridd? OAQ(4)0294(HR) TYNNWYD YN ÔL

 

7. Leighton Andrews (Rhondda): Faint o gyllid preifat sydd wedi’i godi yn sgîl trosglwyddiadau gwirfoddol unigol ar raddfa fawr ers 2007? OAQ(4)0296(HR)

 

8. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rôl y bydd yr iaith Gymraeg yn ei chwarae yn y Bil Cynllunio newydd? OAQ(4)0297(HR)

 

9. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i gynorthwyo'r rhai sy'n prynu cartrefi yng Nghymru? OAQ(4)0305(HR)

 

10. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn bwriadu eu cymryd i ysgogi'r farchnad dai yng Nghymru? OAQ(4)0298(HR)

 

11. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd eiddo llai i aelwydydd y mae newidiadau i fudd-daliadau yn effeithio arnynt? OAQ(4)0302(HR)

 

12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu’r rhai sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yn Nwyrain De Cymru? OAQ(4)0299(HR)

 

13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog amlinellu nifer y tai y mae awdurdodau lleol yn bwriadu eu hadeiladu yn ystod 2014-2015? OAQ(4)0295(HR)

 

14. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymhwysedd Cynllun Gwarant Morgais Llywodraeth y DU i Gymru? OAQ(4)0307(HR)

 

15. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu cartrefi newydd yng Nghymru? OAQ(4)0303(HR)W